Croeso i wefan newydd Yr Herald Cymraeg. Mae'r safle'n gydymaith clos i'r atodiad sy'n ymddangos bob dydd Mercher gyda'r Daily Post. Ond wrth gwrs, ar wefan fel hon gallwn gynnig rhywbeth gwahanol i'r gair printiedig, a gallwch fentro hefyd y bydd datblygiadau newydd yn ymddangos yn rheolaidd. Mwynhewch eich ymweliad, a gadewch inni wybod eich barn amdano.
MI fydd yr Olympics drosodd erbyn i chi ddarllen hwn, a Beijing wedi hen ddechrau gwagio. A dyna i chi bythefnos wedi gwibio heibio, pythefnos o fod yn gaeth i’r teledu a mynd drwy llond bocs o hancesi papur. more
DWI ddim yn meddwl y gall neb honni ei bod hi wedi gwneud haf da eleni! Yn anffodus, ryw dywydd digon bethma mae hi wedi ei wneud a dim cymaint â chymaint o haul er mwyn i ni fedru loetran yng nglan y môr. Nid bod hynny wedi fy rhwystro i rhag mynd i’r traeth, dydi o ddim. Fel y gwyddoch chi bellach. Mi rydw i’n ddigon hapus i dreulio oriau bwygilydd yn piltran ar y traeth. more
DIOLCH yn fawr i E Roberts, Llanystumdwy am y llythyr oedd yn sôn am y feddyginiaeth o chwipio llosgeira ar y traed hefo’r gelynnen. Wn i ddim os oedd sudd o’r goeden yn effeithio ar y llosgeira, neu a oedd chwipio hefo’r celyn yn gwella cylchrediad y gwaed a hynny ynddo’i hun yn cael gwared â’r llosgeira. Tybed oes rhywun wyr? A gyda llaw, ydw i’n iawn yn credu mai oerfel sy’n achosi llosgeira? more